Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 3 Hydref 2022
Amser:
13.30 -
15.40
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12999
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Rhys ab Owen AS Alun Davies AS Peter Fox AS (yn lle James Evans AS) |
Tystion: |
Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd Richard Clarke, Llywodraeth Cymru Nick Howard, Llywodraeth Cymru Hefin Gill, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Gerallt Roberts (Ail Glerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Cafwyd ymddiheuriadau gan James Evans AS. Dirprwyodd Peter Fox AS ar ei ran
2 Y Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru): Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog
Clywodd y
Pwyllgor tystiolaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar Fil
Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru).
Gohiriwyd y Pwyllgor am ychydig amser yn ystod y sesiwn dystiolaeth oherwydd materion technegol o ran cysylltiad rhyngrwyd y Cadeirydd.
3 Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol
3.1 SL(6)257 - Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Diwygio Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2022
The Committee noted the response from the Welsh Government.
3.2 SL(6)258 - Rheoliadau Symud Anifeiliaid Anwes yn Anfasnachol (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2022
Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.
4 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
4.1 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Tai, Llywodraeth Leol a Chymunedau
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
4.2 Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth - System Gwybodaeth am Feddyginiaethau
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
5 Papurau i'w nodi
5.1 Gohebiaeth gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru ac Oxfam Cymru: Cerdyn Sgorio Ffeministaidd 2022
Nododd y Pwyllgor y llythyr ar y cyd gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod (WEN) ac Oxfam Cymru ar y Cerdyn Sgorio Ffeministaidd ar gyfer 2022.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
7 Y Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru): Trafod y dystiolaeth
Trafododd y Pwyllgor tystiolaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ar Fil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) a chytunwyd ar y materion allweddol sydd i’w cynnwys yn yr adroddiad drafft. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am eglurder ynghylch ystyriaeth y Senedd o’r Bil yng Nghyfnod 1.
8 Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)
Trafododd y Pwyllgor ymatebion y rhanddeiliaid perthnasol fel rhan o’i alwad wedi’i thargedu am dystiolaeth ar Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru).
9 Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Banc Seilwaith y DU: Adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i ystyried fersiwn ddiwygiedig yn ei gyfarfod nesaf.
10 Cytundebau rhyngwladol
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y cytundebau rhyngwladol a drafodwyd ar 26 Medi 2022, a chytunodd arno.
11 Blaenraglen Waith
Trafododd y Pwyllgor faterion yn ymwneud â’i flaenraglen waith a chytunwyd ar ei ddull ar gyfer ystyried Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) Llywodraeth y DU.
12 Adroddiad blynyddol
Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad blynyddol, yn amodol ar fân ddiwygiadau, a chytunodd i ofyn am ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr adroddiad ar ddyddiad a gadarnheir ym mis Tachwedd 2022.